Introducing 

Prezi AI.

Your new presentation assistant.

Refine, enhance, and tailor your content, source relevant images, and edit visuals quicker than ever before.

Loading…
Transcript

Diwylliant y Cyfryngau

Adolygu

Adolygu

Gan mai hon yw seminar olaf y semester, dyma gyfle i edrych yn ol dros yr wythnosau blaenorol, a cheisio crynhoi y prif bwyntiau.

Wythnos 11

Cenedlaetholdeb a'r Cyfryngau

Imagined Communities gan Benedict Anderson

Gwaith allweddol?

  • Mae cenedl yn rhywbeth mympwyol (abritrary), sydd yn cael ei greu gan bobl yn dod at ei gilydd
  • Mae'r cyfryngau torfol yn rhan hanfodol o'r broses yma, gan eu bod yn caniatau i ni gyfathrebu efo pobl o du allan i'n cylch cymdeithasol agos
  • Mae'r cyfryngau yn helpu i greu cenedl drwy adeiladu diwylliant cyffredin
  • Ond mae'r cyfryngau hefyd yn helpu i greu cenedl drwy dynnu sylw at wahaniaeth - yn aml mewn ffordd hyll neu niweidiol

Prif bwyntiau?

Y Cyfrwng a'r neges

Y Cyfrwng a'r Neges (The Medium is the Message)

Marshall McLuhan - The Medium is the Message

Gwaith allweddol?

Prif Bwyntiau?

  • Mae negeseuon yn amrywio, gan ddibynnu ar y cyfrwng sy'n cael ei ddefnyddio i'w cyfathrebu
  • Hynny yw, mae 'na wahaniaeth sylfaenol rhwng stori newyddion pan mae hi'n cael ei hadrodd ar deledu, ar y radio neu yn y papur newydd.
  • Weithiau, mae'r cyfrwng yn fwy deniadol i'r gynulleidfa na'r neges - mae pobl yn gwylio'r teledu er mwyn gwylio'r teledu, yn hytrach nac er mwyn gwylio rhaglen benodol

Cyfryngau a Grym

Y Cyfryngau a Grym (Media and Power)

Gwaith Ysgol Frankfurt: Adorno, Horkheimer, Marcuse, Benjamin

Prif ffynhonell(au)?

Prif bwyntiau?

  • Mae'r criw bach o bobl gyfoethog - cyfalafwyr (capitalists) - yn berchen ar y cyfryngau
  • Amcan y cyfalafwyr yw rheoli'r proletariat (y bobl gyffredin), fel eu bod yn weithwyr ufudd
  • Mae'r cyfryngau yn cael eu defnyddio i gadw'r proleteriat yn hapus a dedwydd drwy eu bwydo gyda diwylliant torfol sy'n ail-adroddus a di-feddwl
  • Mae'r cyfryngau hefyd yn llawn negeseuon ideolegol sydd yn atgyfnerthu'r drefn gyfalafol - creu hegemoni

Effeithiau'r Cyfryngau

Effeithiau'r Cyfryngau

(Media Effects)

Prif ffynhonell(au)?

Personal Influence - Paul Lazarsfeld ac Elihu Katz

Representation - Stuart Hall (Gol.)

The Nationwide Audience - David Morley

Prif bwyntiau

  • Model y Chwistrell Hypodermaidd (Hypodermic Syringe Model) - sef bod y cyfryngau yn llenwi pennau pobl gyda syniadau
  • Lazarsfeld a Katz yn dadlau bod pobl yn llawer iawn mwy dylanwadol na'r cyfryngau
  • Stuart Hall ac Ysgol Birmingham yn newid cyfeiriad y maes, gan edrych ar sut mae pobl yn dehongli negesuon y cyfryngau - gallu meddwl yn feirniadol
  • Astudiaeth enwog Morley yn dangos bod pobl yn defnyddio'r cyfryngau mewn nifer o ffyrdd gwahanol,

Hysbysebu

Hysbysebu

(Advertising)

Prif syniadau

  • Mae hysbysebion yn faes sy'n cyfathrebu yn dda iawn drwy ddefnyddio semioteg
  • Semioteg yw'r astudiaeth o symbolau, a'r modd yr ydym ni'n gwneud cysylltiadau is-ymwybodol rhwng gwahanol symbolau
  • Hysbysebion effeithiol yn aml yn chwarae ar ein ofnau a'n gobeithion is-ymwybodol, drwy gysylltu ei nwyddau gyda symbolau o lwyddiant.

Rhwydweithiau

Rhwydweithiau

(Networks)

Prif Syniadau

  • Mae rhwydweithiau cymdeithasol yn rhan hanfodol o'n datblygiad diwylliannol ac economaidd
  • Wrth i'n cymdeithas ddatblygu, mae'r gallu i rannu gwybodaeth dros rwydweithiau wedi dod yn bwysicach - rhai yn dadlau ein bod yn byw mewn "cymdeithas wybodaeth" (information society)
  • Y rhyngrwyd bellach yn hanfodol i ddatblygiad economaidd, yn yr un modd ac yr oedd rheilffyrdd 200 mlynedd yn ol

Panig Moesol

Panig Moesol (Moral Panic)

Prif Syniadau

  • Panig moesol yn rhywbeth sydd a hen hanes - hela gwrachod yn engrhaifft o banig moesol o'r canol oesoedd.
  • Mae panics moesol yn aml yn cael eu gyrru gan ofn newid - llawer iawn yn mynegi pryder ynglyn ac effaith cyfryngau ar bobl ifanc
  • Fel arfer, mae grwpiau ymylol, neu lai pwerus - megis merched, pobl ifanc neu leiafrifoedd ethnig - yn destun panic moesol
  • Mae'r cyfryngau torfol yn chwyddo effaith y panic moesol, gan greu stori sydd yn tyfu a thyfu
  • Yn aml, mae'r cyfryngau yn gallu dylanwadu ar wleidyddion i newid y gyfraith, mewn ymateb i banic moesol

Preifatrwydd

Prif Ffynhonell?

Privacy and the Media - Andrew McStay

Prif bwyntiau?

  • Preifatrwydd yn hawl sylfaenol sydd gan bob unigolyn - er bod yr hawl yma'n cael ei ddehongli yn wahanol mewn gwahanol wledydd
  • Y cyfryngau cymdeithasol (social media) yn defynyddio ein data personol fel sylfaen ei gwasanaeth - hyn yn fygythiad i'n preifatrwydd
  • Pryderon hefyd ynlgyn a sut mae'r llywodraeth yn defnyddio ein gwybodaeth breifat - oes ganddyn nhw'r hawl i ddarllen ein ebyst, neu weld yr hyn 'da ni wedi bod yn chwilio amdano ar-lein?
Learn more about creating dynamic, engaging presentations with Prezi