Arhosodd Ellis adref i weithio ar y fferm. Roedd hi'n bwysig bod rhai ffermwyr yn aros adref er mwyn bwydo'r wlad.
Byddai merched yn rhoi pluen wen i rai dynion oedd yn gwrthod ymuno â'r lluoedd arfog. Byddai derbyn pluen wen yn codi cywilydd ar y dynion. Roedd llawer o bwysau ar ddynion i fynd i ymladd.
Un ym Mhontardawe ac un arall yn Llanuwchllyn
1914 - Dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf
Derbyniodd Ellis newyddion trist. Bu farw rhai o'i ffrindiau yn ymladd yn y rhyfel. Effeithiodd hyn ar y math o farddoniaeth roedd yn ei hysgrifennu.
Daeth yn ail yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Ysgrifennodd gerdd am Ystrad Fflur
Roedd pob dyn sengl rhwng 18 a 41 mlwydd oed yn cael eu gorfodi i fynd i ymladd
Yr Adsain, 16 Chwefror 1916
Milwyr a cheffylau yn gadael gorsaf drenau Trawsfynydd, 1915
Hedd Wyn
Yn 1910 penderfynodd Ellis ar ei enw barddol, sef
Dechreuodd rhai o ddynion yr ardal ymuno â'r lluoedd arfog yn Nhrawsfynydd.
Roedd Hedd Wyn yn 29 ar y pryd ac yn sengl, ac roedd ei frodyr yn ddigon o help ar y fferm i'w dad, felly roedd yn rhaid iddo gofrestru.
Doedd Ellis ddim yn gallu dychmygu saethu person arall....
ond oherwydd consgripsiwn fe ymunodd â'r fyddin.
Hedd Wyn
Pontarfynach c.1910
Hedd Wyn oedd enw barddol Ellis Humphrey Evans.
Enillodd ddwy gadair leol arall yn 1913,
un ym Mhwllheli a'r llall yn Llanuwchllyn.
Aeth Ellis am hyfforddiant milwrol ym mis Chwefror 1917 i wersyll yn Lerpwl. Doedd Ellis ddim yn siarad llawer o Saesneg ac roedd bywyd fel milwr yn wahanol iawn i'w fywyd ar y fferm.
Ellis oedd y mab hynaf allan o 11 o blant.
Beirdd oedd sêr roc y cyfnod yng Nghymru.
Roedd ennill y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn fraint anferth.
Cafodd Ellis Humphrey Evans ei eni ar 13 Ionawr, 1887.
Pan oedd yn 20 mlwydd oed enillodd ei gadair gyntaf mewn Eisteddfod leol yn y Bala, 1907.
Ysgrifennai gerddi am natur a chrefydd.
Roedd y llywodraeth angen gweithwyr fferm i helpu gydag aredig y tir er mwyn bwydo'r wlad. Cafodd llawer o filwyr eu rhyddhau dros dro.
Cafodd ei fagu ar fferm tua milltir o bentref Trawsfynydd.
Roedd Ellis yn un o'r milwyr a gafodd ganiatâd i adael am saith wythnos . Treuliodd y rhan fwyaf o'i amser yn ffermio ac yn ysgrifennu cerdd Yr Arwr.
Fferm y teulu, Yr Ysgwrn
Dechreuodd Ellis Evans gystadlu mewn Eisteddfodau.
Eisteddfod y Bala, 1910
Tra adref yn Yr Ysgwrn ysgrifennodd gerdd Yr Arwr ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol wrth y tân.
Un o gystadlaethau pwysicaf yr Eisteddfod yw'r Cadeirio. Cystadleuaeth ydyw lle mae'r unigolyn sydd yn ysgrifennu'r gerdd orau yn ennill cadair.
Dim ond cerddi arbennig sydd yn cael eu gwobrwyo gyda'r gadair.
Gwahanol Eisteddfodau
1. Eisteddfodau lleol lle mae pobl leol yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.
2. Ac Eisteddfodau Cenedlaethol lle mae pobl o bob rhan o Gymru yn cystadlu.
Dyma fedd Hedd Wyn yng Ngwlad Belg.
Arhosodd Ellis adref am 7 diwrnod yn fwy nag yr oedd hawl ganddo wneud. Daeth yr heddlu i'w nol o'r fferm...
...anghofiodd ei gerdd wrth ymyl y tân
Cafodd ei addysg gynnar yn yr ysgol leol a’r Ysgol Sul. Roedd ganddo ddawn i farddoni. Roedd yr Ysgol Sul a'i dad yn ddylanwad mawr ar Hedd Wyn.
"Y bardd trwm dan bridd tramor"
R. Williams Parry
Ystafell ddosbarth o'r cyfnod
Roedd yn rhaid iddo ysgrifennu'r gerdd eto ar y trên...
Ar y 6ed o Fedi 1917 yn seremoni cadeirio'r Eisteddfod Genedlaethol cafodd Hedd Wyn ei enwi fel enillydd y gadair.
Gadawodd yr ysgol yn 14 oed ac aeth i weithio fel bugail ar fferm ei rieni, Yr Ysgwrn.
Daeth Hedd Wyn yn symbol
o golled y rhyfel i'r genedl gyfan
Gorchuddiwyd y gadair â gorchudd du. Mae'r gadair enillodd Hedd Wyn yn cael ei galw'n Gadair Ddu
Cyrhaeddodd Ffrainc a dyna ble y cwblhaodd y gerdd.
Dyma’r frwydr gyntaf y bu Ellis yn rhan ohoni. Cafodd Ellis Humphrey Evans ei saethu ym mrwydr Cefn Pilkem. Bu farw yn hwyrach y diwrnod hwnnw.
...Trwy lwc, perswadiodd Ellis un o'r swyddogion sensoriaeth i bostio ei gerdd. Doedd rheolau sensro ddim yn gadael i lawer o lythyrau Cymraeg gael eu postio adref gan eu bod yn ofni bod rhain yn negeseuon i'r gelyn!