Chico Mendes

GR
by Glyn Rogers1 view·Updated May 30, 2012
Powered by AI

Need to present on this topic?

Create your own polished presentation in minutes. Just describe what you need.

Free to try, no credit card required

Transcript

Llofruddiaeth Chico Mendes

Pwy bydd yn elwa mwyaf

o farwolaeth Chico?

Y drwgdybwyr

Cefndir

Y dioddefwr

DARLEY ALVES ( Ransiwr gwartheg )

Nid oedd yn Alves yn hoffi’r ffaith bod Chico wedi ennill, ac felly ei atal rhag ddatgoedwigo ardaloedd a all ei ddefnyddio fel tir pori i’r gwartheg - Mae Alves yn gwerthu’r gwartheg tramor.

Ble?

FRANCO QUADROS ( Perchennog cwmni mwyngloddio Bauxite)

Roedd y cwmni yma hefyd o dan amheuaeth o lygru’r afonydd leol a cymryd mwy a mwyngloddio yn y goedwig heb ganiatad. Mae gan Franco gyda sawl ffrind dylanwadol ac mae pobl wedi gweld Franco mewn sawl parti crand yng nghwmni Jose Fernandez, gweinidog economi Brasil.

Beth sy'n digwydd yna?

FFERNANDO CAVALERO ( Perchennog planhigfeydd)

Roedd Fernando am ehangu ei blanhigfeydd i ardaloedd eraill oherwydd bod y pridd yn colli ei ffrwythlondeb. Roedd Fernando hefyd o dan amheuaeth o lygru’r afon gyda chemegion roedd e’n rhoi ar y cnydau.

FRANCISCO DE SOUSA ( ffarmwr tlawd)

Cafodd De Sousa ei orfodi gan y llywodraeth i symud pan daeth cwmni torri coed ei dir. Roedd rhaid iddo ail sefydlu mewn rhan arall o’r goedwig law. Nid oedd yn llwyddiannus iawn ar ei fferm newydd ac roedd yn gwybod y byddai rhaid iddo symud mewn rhai blynyddoedd ( triniad mudol ). Roedd Chico wedi son yn aml am y problemau oed yn cael ei greu gan driniad mudol a sut roedd yn dinistrio’r goedwig. Roedd Francisco wedi bod yn yfed yn drwm dros y misoedd diwethaf oherwydd bod ei ffearm yn methu ac oherwydd bod rhaid symud.

http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/americas/7397782.stm

ALDEBIO DA SILVA-Perchennog cwmni torri coed

Roedd Silva’n dechrau poeni byddai Chico yn darganfod ei fod yn torri coed mahogani lawr yn anghyfreithlon – mae’n gwerthu’r coed yn Ewrop.

LUIS FRANCO ( adeiladwr heolydd)

Mae gan Luis 6 o blant ac mae’n byw mewn sied bren. Buodd yn ddi-waith am 5 mlynedd nes iddo gael swydd yn adeiladu heol trwy’r goedwig law fel y gall loriau cyrraedd y mwynfeydd. Roedd Franco yn poeni y byddai adeiladu’r heol yn cael ei atal os byddai Chico yn parhau i brotestio. Nid oedd Franco’n gallu fforddio colli ei swydd, roedd ei blant yn dost a doedd e ddim yn gallu talu am y biliau meddygol.

JOSE FERNANDEZ (gweinidog am economi Brazil)

Roedd yn aelod llwyddiannus iawn o’r llywodraeth, ond hefyd roedd yn adnabyddus o fod yn greulon os byddai pobl yn ei groesi. Roedd Jose yn ymwybodol y byddai rhaid iddo wella economi Brazil trwy ganiatáu i gwmnïoedd ddefnyddio’r goedwig law. Fe fyddai hyn yn gwneud arian i’r llywodraeth trwy allforion tramor a fe fyddai’n golygu y byddai Jose yn parhau yn ei swydd.

Pwy?

OVIDO ROBERTO (Adeiladwr argae )

Roedd argae, gwerth sawl miliwn, yn cael ei gynllunio ar gyfer yr afon Rio Grande. Byddai Ovido yn gwneud llawer o arian os byddai’r cynllun yn mynd yn ei flaen. Roedd Chico yn protestio yn erbyn adeiladu’r argae yn y goedwig law.

Pam?